SL(6)117 - Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 4) (Cymru) 2021

Cefndir a Diben

Mae Adran 81 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 ac Atodlen 29 iddi yn darparu gwarchodaeth rhag troi allan drwy gynyddu’r cyfnod hysbysu y mae’n rhaid i landlord ei roi i denant wrth geisio adennill meddiant.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymestyn tan 24 Mawrth 2022 (o’r dyddiad terfyn blaenorol sef 31 Rhagfyr 2021) y cyfnod pan fydd yn rhaid rhoi mwy o hysbysiad i denantiaid sy'n cael tenantiaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977 a Deddfau Tai 1985, 1988 a 1996. 

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn negyddol gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 17 Rhagfyr 2021.

Yn benodol, rydym yn nodi'r hyn y mae'r llythyr yn ei ddweud ynghylch pam mae'r rheoliadau hyn yn torri'r rheol 21 diwrnod:

“Yng ngoleuni parhad y pandemig, ac ar adeg pan fo bygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd o hyd, o ganlyniad i’r ffaith bod cyfraddau achosion Covid-19 yn parhau i fod yn uchel a bod pryder ynghylch yr amrywiolyn Omicron newydd sydd wedi dod i’r amlwg, mae Gweinidogion Cymru wedi dod i’r casgliad fod angen brys o hyd i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o denantiaid mewn perygl o gael eu troi allan o’u cartrefi. Bydd hyn yn helpu i gyfyngu ar y Coronafeirws, lleihau’r baich ar staff rheng flaen, a sicrhau bod tenantiaid yn cael cymorth priodol. Mae’r Rheoliadau’n gwneud cyfraniad pwysig tuag at ddiwallu’r angen brys hwnnw. Er mwyn sicrhau bod darpariaethau Atodlen 29 yn parhau i fod yn gymwys ar ôl 31 Rhagfyr 2021, daw'r Rheoliadau i rym ar 31 Rhagfyr. Oherwydd y brys, nid yw’r Rheoliadau wedi bod yn destun ymgynghoriad ac ni chafwyd amser i gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â nhw."

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae hawliau landlordiaid o dan Erthygl 1 o Brotocol 1 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“A1P1”) yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae'r Pwyllgor yn nodi na fydd y Rheoliadau ond yn estyn y cyfnod perthnasol am gyfnod penodedig (hyd at 24 Mawrth 2022).

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Ers i’r cyfnod perthnasol gael ei ymestyn ddiwethaf, gwelwyd gwelliannau mewn perthynas â’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd o ganlyniad i lwyddiant y rhaglen frechu.      Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd yn ddiweddar yn nifer yr achosion, sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty, er eu bod ar gyfradd is nag a oedd yn wir cyn cyflwyno’r rhaglen frechu. Mae’r amrywiolyn newydd (Omicron) sydd wedi ymddangos yn peri pryder sylweddol.   Ar 10 Rhagfyr 2021, mae Cymru’n aros ar lefel Covid Sefydlog (Lefel Rhybudd 0). Fodd bynnag, darparwyd canllawiau pellach ynghylch cynnal profion ychwanegol a gwisgo masgiau wyneb mewn lleoliadau lletygarwch. Mae'r amcanestyniadau diweddaraf ar gyfer y tymor byr i ganolig yn dangos y rhagwelir y bydd yr amrywiolyn newydd yn achosi i’r gyfradd heintio godi, ac y gallai ddisodli “Delta” yn gyflym iawn fel y straen amlycaf ledled y DU. Felly, yng ngoleuni cyfraddau achosion cynyddol yn gyffredinol a’r bygythiad yn sgil Omicron, bydd gohirio troi pobl allan yn parhau i helpu i reoli cyfradd trosglwyddo Covid-19.

Yn gyffredinol, mae’r feirws yn dal i fod yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd, a fyddai’n cynyddu’n sylweddol pe bai’r don bresennol o achosion yn digwydd ar yr un pryd â thon sydyn o achosion o droi pobl allan o’u cartrefi, a chynnydd mewn digartrefedd o ganlyniad i hynny. Bydd hyn yn parhau i fod yn wir wrth inni symud drwy fisoedd y gaeaf, lle gall effaith Covid-19, ar y cyd ag achosion newydd posibl o'r ffliw a phwysau arferol eraill y gaeaf, roi'r gwasanaeth iechyd dan straen sylweddol. O dan yr amgylchiadau hyn, ystyrir ei bod yn briodol i barhau i gymryd camau i gyfyngu ar y perygl o gynnydd sydyn yn yr achosion o droi pobl allan o'u cartrefi er mwyn parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“O ganlyniad i'r argyfwng, nid yw wedi bod yn bosibl cynnal unrhyw ymgynghoriad ar y Rheoliadau hyn ac nid oes gofyniad statudol i wneud hynny. Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau cadarn â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector tai; mae cyrff sy’n cynrychioli landlordiaid wedi ymgysylltu’n anffurfiol ar ddiben ac effaith y Rheoliadau hyn."

4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Pwyllgor yn nodi nad oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a bod y Memorandwm Esboniadol yn nodi’r canlynol:

            “Mae argyfwng COVID-19 a'r brys i baratoi’r Rheoliadau hyn yn golygu nad oedd hi'n bosibl paratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol meintioledig.”   

Mae'r Pwyllgor yn nodi bod adran 6 o'r Memorandwm Esboniadol yn ceisio nodi crynodeb o effaith bosibl y Rheoliadau hyn, sy'n darparu rhywfaint o asesiad ansoddol o'u heffaith.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Rhagfyr 2021